Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 9 Mawrth 2020

Amser: 10.45 - 12.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5875


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Suzy Davies AC

Carwyn Jones AC

Dai Lloyd AC

Tystion:

Geth Williams, Swyddfa Cymru

Simon Hart MP, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Rachael Davies (Dirprwy Glerc)

Nia Moss (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)512 - Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(5)507 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol)(Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(5)508 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol)  (Cymru) (Rhif 2) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.3   SL(5)509 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI7>

<AI8>

3.4   SL(5)510 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal â hyn, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at nifer yr offerynnau a osodwyd yn ddiweddar yn groes i’r rheol 21 diwrnod.

</AI8>

<AI9>

3.5   SL(5)511 - Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

4       Papurau i'w nodi

</AI10>

<AI11>

4.1   Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

</AI11>

<AI12>

4.2   Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cymhwysedd ar gyfer treth tir gwag yng Nghymru

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

</AI12>

<AI13>

4.3   Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol

</AI13>

<AI14>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI14>

<AI15>

6       Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chytunodd arno’n amodol ar rai mân newidiadau. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 13 Mawrth 2020.

</AI15>

<AI16>

7       Y newid yng nghyfansoddiad Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog Gwladol Cymru.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

</AI16>

<AI17>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI17>

<AI18>

9       Y newid yng nghyfansoddiad Cymru: Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd yn ystod y sesiwn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r prif faterion i’w hystyried nesaf. 

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>